Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2021
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
Sian Giddins – Dirprwy Glerc
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu
gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu
iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar
www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(09.30) (Tudalennau 1 - 42)
2 Cylch gwaith y Pwyllgor
(09.30-09.35) (Tudalennau 43 - 44)
3 Deisebau newydd
(09.35-10.15)
3.1 P-06-1158 Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth
(Tudalennau 45 - 49)
3.2 P-06-1159 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru
(Tudalennau 50 - 57)
3.3 P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus
(Tudalennau 58 - 62)
3.4 P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn
(Tudalennau 63 - 69)
3.5 P-06-1162 Rhannu Sir Rhondda Cynon Taf ac uno Cwm Cynon â Sir Merthyr
(Tudalennau 70 - 75)
3.6 P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru
(Tudalennau 76 - 80)
3.7 P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol
(Tudalennau 81 - 84)
3.8 P-06-1165 Dylid gwahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd
(Tudalennau 85 - 88)
3.9 P-06-1166 Darparu grantiau di-dreth i bobl sy'n gweithio yn y celfyddydau a darparu cyllid grant i leoliadau celfyddydol.
(Tudalennau 89 - 93)
3.10 P-06-1167 Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru
(Tudalennau 94 - 99)
3.11 P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws cymru
(Tudalennau 100 - 103)
3.12 P-06-1169 Gadewch i ddinasyddion Cymru bleidleisio ar gyfyngiadau symud
(Tudalennau 104 - 107)
3.13 P-06-1170 Adolygiad annibynnol di-oed o'r broses ddethol Haen 1 a Haen 2 yn Uwch-gynghrair Menywod Cymru
(Tudalennau 108 - 111)
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
(10.15-10.45)
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
4.1 P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl
(Tudalennau 112 - 119)
4.2 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU
(Tudalennau 120 - 123)
4.3 P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!
(Tudalennau 124 - 129)
Addysg
4.4 P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol
(Tudalennau 130 - 133)
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
4.5 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru
(Tudalennau 134 - 139)
Deisebau y gellir eu dirwyn i ben
4.6 P-05-1092 Peidiwch â gohirio etholiadau mis Mai 2021
(Tudalennau 140 - 141)
4.7 P-05-1150 Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr
(Tudalennau 142 - 145)
4.8 P-05-1151 Dylid pennu dyddiad ar gyfer ailddechrau gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer babanod a phlant bach
(Tudalennau 146 - 149)
4.9 P-05-1154 Dylid ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru erbyn 12 Ebrill 2021
(Tudalennau 150 - 153)
4.10 P-05-1156 Dylid cyfateb y cyllid ar gyfer busnesau bach yn ystod y cyfyngiadau symud gyda Lloegr - gan gynnwys y grant ailgychwyn
(Tudalennau 154 - 156)
4.11 P-05-1157 Caniatáu i ysgolion asesu myfyrwyr fel y maent yn gweld yn addas, gan gynnwys defnyddio asesiadau llyfr agored
(Tudalennau 157 - 162)
5 Papurau i’w nodi
(10.45-10.50)
5.1 Adroddiad gwaddol Fforwm y Cadeiryddion blaenorol
(Tudalennau 163 - 182)
5.2 Adroddiad gwaddol y pwyllgor a oedd yn rhagflaenu
(Tudalennau 183 - 208)
5.3 P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi
(Tudalennau 209 - 212)
5.4 P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
(Tudalennau 213 - 215)
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7 ac eitem 8 o’r cyfarfod.
(10.50)
7 Gweithdrefnau pwyllgorau a'u ffyrdd o weithio
(10.50-11.10) (Tudalennau 216 - 225)
8 Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor
(11.10-11.30) (Tudalennau 226 - 237)